Tag Cymraeg

Cwrdd â’r Crefftwyr 7

Mae The Green Cottage Gardener, i’w gweld bob dydd Mercher fel arfer ym Marchnad Machynlleth ac ym Marchnad Hen Dref Aberystwyth ar ail ddydd Sadwrn y mis, yn gwerthu amrywiaeth o blanhigion lluosflwydd, perlysiau, planhigion alpaidd,blodau wedi’u torri a thorchau…

Cwrdd â’r Crefftwyr 6

Mae’n bleser cael aelodau Sefydliad y Merched (WI) Genau’r Glyn yn y sioe eleni. Maen nhw wedi bod yn croesawu aelodau i’w cyfarfodydd yn Llandre ers bron i 80 mlynedd. Maen nhw’n grŵp gweithgar gyda rhaglen gynhwysfawr o weithgareddau yn…

Cwrdd â’r Crefftwyr 5

Elusen yw Cymdeithas Mynyddoedd Cambria sy’n hyrwyddo ucheldiroedd Canolbarth Cymru: mynyddoedd Pumlumon, Elenydd (gan gynnwys Dyffryn Elan) a Mynydd Mallen. “Mae’r ardal hon, un o’r tirweddau mwyaf prydferth, lliwgar, bioamrywiol ac amrywiol yn Ne Prydain, hefyd yn un o’r rhai…

Cwrdd â’r Crefftwyr 4

Wedi’i lleoli ger Aberaeron, mae Lou o ‘Treetops Blooms’ i’w gweld yn aml mewn Marchnadoedd Ffermwyr a digwyddiadau ledled Gorllewin Cymru yn gwerthu pwysi hyfryd o flodau tymhorol ffres a phwysi a thorchau hardd o flodau wedi’u sychu yn yr…

Cwrdd â’r Crefftwyr 3

Rydyn ni’n falch iawn o groesawu Rhiannon Lloyd-Williams o Cerameg Glas Ceramics i’r sioe eto eleni. Mae Rhiannon yn grochenydd lleol sy’n gweithio gyda chymysgedd o glai gwyllt lleol (gan gynnwys clai o Fferm Moelgolomen, Bontgoch) a chrochenwaith i gynhyrchu…

Cwrdd â’r Crefftwyr 2

Mae’n bleser mawr gennym groesawu Helen Lloyd yn ôl, a fydd yn gwerthu Caws Cenarth. Mae llaethdy Caws Cenarth ar Fferm Glyneithinog yn nyffryn hyfryd a gwyrddlas Afon Cych a dyma lle gwneir y caws Per Llas enwog a chawsiau…

Cwrdd â’r Crefftwyr

Rydyn ni bron yna! Gyda dim ond ychydig ddyddiau i fynd tan Sioe Talybont 2026, mae’n bryd i ni roi sylw i’n crefftwyr, ein cynhyrchwyr bwyd, y clybiau a’r cymdeithasau gwych fydd yn ymuno â ni yn yr ardal grefftau…

🫏 Newyddion Cyffrous! 🫏

Mae’r pwyllgor wedi trefnu rhywbeth arbennig i’r plantos eleni- bydd Emma yn dod a’u asynnod yr holl ffordd o Lanidloes i’w diddanu!Bydd modd mwynhau reid ar asyn rhwng 11yb a 4yp am bunt yn unig- bargen!

Gwirfoddolwyr

Dewch draw i’r cae neu rhowch wybod os ydych chi ar gael i gefnogi’r criw gweithgar- rydym yn cael tipyn o hwyl!