Rydyn ni bron yna! Gyda dim ond ychydig ddyddiau i fynd tan Sioe Talybont 2026, mae’n bryd i ni roi sylw i’n crefftwyr, ein cynhyrchwyr bwyd, y clybiau a’r cymdeithasau gwych fydd yn ymuno â ni yn yr ardal grefftau ar y diwrnod. Hoffem ni dynnu sylw hefyd bod rhai gwerthwyr, ond nid pob un, yn derbyn taliadau cerdyn, felly peidiwch ag anghofio dod ag arian parod yn ogystal â cherdyn.
Rydym yn falch o groesawu Kevin o Toloja Orchard. Mae Toloja Orchard, a sefydlwyd yn 2005, yn cynhyrchu seidr Cymreig traddodiadol, brandi seidr, medd a gwin yn ogystal â finegr seidr sy’n cael ei ddefnyddio yn y mathau gwahanol o fwstard a gynhyrchir ganddynt. Mae popeth yn cael ei greu ar eu fferm ym Mae Ceredigion gan ddefnyddio afalau lleol, wedi’u tynnu â llaw a’u gwasgu a dim unrhyw gynhwysion neu ychwanegion artiffisial http://www.facebook.com/Tolojacider
Mae’n bleser croesawu Danny yn ôl, o Cwm Deri Estate Wines and Liqueurs. Wedi’i sefydlu ym 1988, mae pob potel o’u gwin ffrwythau “yn ymgorffori treftadaeth unigryw a chyfoethog Cymru, wedi’i greu ar raddfa fach, gyda sylw manwl i fanylder”. https://www.facebook.com/Cwmderi
Gan ddod â bragu yn ôl i Aberystwyth mae Bragdy Dwy Afon – Bragdy Two Rivers, yn dîm o 6 a ddaeth at ei gilydd trwy eu hangerdd am gwrw. Mae eu hamrywiaeth o gwrw casgen a photel traddodiadol yn cynnig rhywbeth i bawb – o gwrw ysgafn i stowt cyfoethog ei flas.
