Elusen yw Cymdeithas Mynyddoedd Cambria sy’n hyrwyddo ucheldiroedd Canolbarth Cymru: mynyddoedd Pumlumon, Elenydd (gan gynnwys Dyffryn Elan) a Mynydd Mallen. “Mae’r ardal hon, un o’r tirweddau mwyaf prydferth, lliwgar, bioamrywiol ac amrywiol yn Ne Prydain, hefyd yn un o’r rhai mwyaf anghysbell a lleiaf adnabyddus”. Yn ogystal â chynnal teithiau cerdded i aelodau ac ymweliadau â safleoedd diddorol, maent hefyd yn gweithio gyda grwpiau amgylcheddol i warchod planhigion, adar a bywyd dyfrol yr ucheldiroedd a chofnodi sut maen nhw’n newid dros amser. Mae’r CMS hefyd yn weithgar wrth ymateb i unrhyw ymgynghoriad gan y Llywodraeth ar faterion polisi sy’n effeithio ar y cymunedau sy’n byw yn ardal Mynyddoedd Cambria. Bydd cyfle i ymuno â’r CMS ar ddiwrnod y sioe neu gallwch ymuno ar-lein trwy ymweld â www.cambrian-mountains.co.uk
Sefydlwyd Cymdeithas Gwenynwyr Aberystwyth a’r Cylch bron i 50 mlynedd yn ôl ac mae’r aelodau yn amrywio o bobl ifanc hyd at bobl hŷn! Eu nod yw darparu cefnogaeth i wenynwyr a darpar wenynwyr yng Ngheredigion trwy raglen o ddarlithoedd, sesiynau blasu blynyddol i ddechreuwyr, yswiriant, a benthyg offer yn ogystal â chynnig arweiniad ar gynhyrchu’r mêl blodau gwyllt gorau. Bydd aelodau ar faes y sioe yn hyrwyddo cadw gwenyn ac yn dangos cwch gwenyn i’w arsylwi. Bydd cyfle hefyd i brynu mêl lleol. aberystwythbka.org
Rydyn ni bob amser yn falch o groesawu i Urdd y Nyddwyr, y Gwehyddion a’r Lliwyddion a fydd yn arddangos eu sgiliau ac yn gwerthu rhai eitemau wedi’u nyddu â llaw. Dewch draw i’w stondin i ddysgu rhywbeth am y grefft draddodiadol yma.
