Cwrdd â’r Crefftwyr 7

Mae The Green Cottage Gardener, i’w gweld bob dydd Mercher fel arfer ym Marchnad Machynlleth ac ym Marchnad Hen Dref Aberystwyth ar ail ddydd Sadwrn y mis, yn gwerthu amrywiaeth o blanhigion lluosflwydd, perlysiau, planhigion alpaidd,blodau wedi’u torri a thorchau tymhorol.  Yn ogystal â mynychu’r marchnadoedd hynny, gellir dod o hyd i blanhigion a blodau wedi’u torri a dyfir yn lleol ar werth y tu allan i Green Cottage Talybont SY24 5HE. https://www.facebook.com?profile.php?id=61560849231269

Rydym yn croesawu Delyth Jones o Benrhyncoch i’r sioe. Er bod Delyth wedi bod yn mynychu’r sioe ers blynyddoedd lawer, gan golli dim ond un allan o’r 50 diwethaf oherwydd priodas deuluol, dyma’r tro cyntaf iddi ymuno â ni fel gwerthwraig. Mae Delyth wedi bod yn gwau ers dros 60 mlynedd, wedi’i hysbrydoli gan ei Mam a’i Hen Fodryb. Bydd rhai o’i chlustogau hardd ar gael i’w prynu ar ddiwrnod y sioe.