Wedi’i lleoli ger Aberaeron, mae Lou o ‘Treetops Blooms’ i’w gweld yn aml mewn Marchnadoedd Ffermwyr a digwyddiadau ledled Gorllewin Cymru yn gwerthu pwysi hyfryd o flodau tymhorol ffres a phwysi a thorchau hardd o flodau wedi’u sychu yn yr awyr – anrheg sy’n cynnig harddwch hirhoedlog y tu hwnt i’r tymhorau. Ffocws Lou yw tyfu blodau’n gynaliadwy – yn rhydd o gemegau, mawn a milltiroedd awyr. Croeso i Sioe Talybont Lou!
Mae Caron o Essence of Tranquility, yn ymuno â ni am y tro cyntaf. Artist ffibr hunanddysgedig sy’n byw yn Nhalybont yw Caron ac mae wedi ymddiddori mewn celf a chrefft ers ei phlentyndod. Fe’i dylanwadwyd gan ei thad, sy’n artist a’i mam, sy’n athrawes grefft. Mae Caron yn creu gwaith celf a chreadigaethau ffibr wedi’u hysbrydoli gan y Tylwyth Teg a Natur. https://www.facebook.com/essenceoftranquil
Rydym yn falch o groesawu Julie o ‘Escaping to Happiness’ unwaith eto, un sy’n creu addurniadau cartref a gemwaith unigryw. Mae ei gwaith yn cynnwys gemwaith cerrig mân, cerflunwaith haniaethol, pennau drysau, a dalwyr canhwyllau.
https://www.facebook.com/escapingtohappiness
