Gwybodaeth

Sioe Talybont

Talybont fu’r prif ddigwyddiad yng nghalendr blynyddol cymuned Ceulanamaesmawr am fwy na 100 mlynedd.
Sioe amaethyddol a garddwriaethol yw hi’n bennaf ond mae yna hefyd gystadlaethau cneifio, arddangosfa o hen beiriannau, sioe gŵn, amryw o stondinau, pabell grefftau ynghyd â rasys cŵn ar ddiwedd y dydd.
Fel rheol, cynhelir y sioe ar Gaeau’r Llew Du, Talybont ar ddydd Sadwrn olaf mis Awst.

Sut i Gystadlu

Byddwn ni’n derbyn cynigion gan bawb sy’n gymwys i gystadlu trwy ein ffurflenni ar-lein.

Anifeiliaid, Tywysydd Ifanc a Chŵn
Bydd angen cyflwyno fideo, dim mwy na munud o hyd. Rhaid tynnu’r fideos gyda’r ffôn yn llorweddol.
Yn Adran y Defaid rhaid dangos y geg a’r dannedd ym mhob fideo.

Dofednod
Bydd angen cyflwyno ffotograff sydd wedi ei dynnu yn ystod y deufis diwethaf.

“Y Babell”
Rhaid i bob cynnig fod ar ffurf UN ffotograff yn dangos eich arddangosyn ar ei orau.
Yr eithriadau yw Dosbarth 52, 55, 59, 69, 75 a 76, lle mae’n rhaid cyflwyno fideo (gweler y rhestr cystadlaethau am ragor o fanylion).

Ffurflenni Ar-lein
Cyflwynwch eich cynigion trwy ein ffurflenni ar-lein. Ewch i dudalen Facebook Sioe Talybont neu ein gwefan am ddiweddariadau. Cofiwch mai dau gais yn unig a ganiateir ym mhob dosbarth ac na fydd modd eu newid ar ôl eu cyflwyno.

Ymholiadau
Os oes gennych ymholiad neu gwestiwn, cysylltwch â Carol Davies: 01970 832989; ysgrifenyddes@sioetalybontshow.com.

Dyddiad cau
Dyddiad cau derbyn cynigion yw hanner nos, dydd Llun, 16 Awst 2021. Ni fyddwn ni’n derbyn cynigion ar ôl y dyddiad hwn.
Trwy gyflwyno’ch cynigion, rydych yn cytuno eich bod wedi darllen a deall Rheolau Sioe 2021 a’r wybodaeth am Warchod Data a Chyhoeddusrwydd ym mhwynt 12 yn y rheolau.

Pob Lwc!

Rheolau Sioe 2021

Cyffredinol
  1. Mae’r Sioe eleni yn agored i:
    > drigolion sy’n byw i’r gogledd o Afon Ystwyth hyd at ffin ogleddol Sir Ceredigion (gweler y map isod). Gall Pwyllgor y Sioe wrthod derbyn cynigion y tu allan i’r ardal;
    > unigolion sydd wedi cystadlu mewn unrhyw ddosbarth yn Sioe Talybont rywdro yn y 3 blynedd ddiwethaf.
    Mae Dosbarth 13 ac 14 yn agored i bawb er hynny.
  2. Dau gais yn unig a ganiateir ym mhob dosbarth. Ni fydd modd i chi newid eich cynigion ar ôl eu cyflwyno.
  3. Rhaid i’r ffotograffau a’r fideos fod yn rhai diweddar ac ni ddylid eu golygu mewn unrhyw ffordd er mwyn gwella eu hymddangosiad. Rhaid i’r arddangosion fod yn berchen i’r cystadleuwyr, wedi’u tyfu neu eu gwneud ganddynt ac eithrio Dosbarth 13 ac 14.
  4. Ni fyddwn yn codi tâl cystadlu eleni ond rydym yn codi arian tuag at Gylch Meithrin Talybont. Mae croeso i unrhyw un sy’n dymuno cyfrannu wneud hynny trwy ein tudalen JustGiving.
  5. Ni chyflwynir gwobrau ond cynigir £100 o wobr ar gyfer Dosbarth 13 ac 14; bydd enillwyr dosbarth 5, 33-39, 43, 63 a 69-77 yn derbyn cardiau gwobrau.
Dyddiad cau
  1. Y dyddiad cau yw hanner nos, dydd Llun, 16 Awst 2021. Ni fyddwn yn derbyn unrhyw geisiadau ar ôl y dyddiad hwn.
  2. Ar ôl y dyddiad cau, caiff y ffotograffau a’r fideos a gyflwynwyd gan y cystadleuwyr eu cyhoeddi ar dudalen Facebook Sioe Talybont i bawb gael eu gweld. Cyfrifoldeb y cystadleuwyr fydd gwirio bod eu cynigion yn ymddangos.
  3. Os na fydd eich cais yn cyrraedd y meini prawf, ni chaiff ei anfon at y beirniad ac ni fydd yn ymddangos ar Facebook.
Beirniadu
  1. Bydd penderfyniad y Beirniaid yn derfynol.
  2. Bydd ein beirniaid yn gorfod beirniadu dan amodau anarferol eleni. Gan na fydd modd iddynt drin a thrafod yr anifeiliaid nac unrhyw arddangosion eraill bydd y penderfyniadau a wneir ganddynt yn seiliedig ar yr hyn sydd i’w weld yn y ffotos a’r fideos yn unig. Gofynnwn i bawb ystyried hyn os gwelwch chi’n dda.
Cyhoeddi’r enillwyr
  1. Bydd y tri uchaf ym mhob dosbarth yn cael eu cyhoeddi ar dudalen Facebook Sioe Talybont ar 28 Awst 2021. Bwriedir rhyddhau amserlen o flaen llaw ar gyfer cyhoeddi’r canlyniadau.
Gwarchod Data a Chyhoeddusrwydd
  1. Bydd Cymdeithas Amaethyddol a Garddwriaethol Talybont a Gogledd Ceredigion yn storio, prosesu a chadw’r data a’r wybodaeth bersonol fydd yn cael eu darparu gan gystadleuwyr at ddibenion gweithredu’r Sioe, cadw a chynnal cofnodion priodol a chyfathrebu â nhw yn y dyfodol ynghylch unrhyw un o weithgareddau’r Gymdeithas.
    Bydd y Gymdeithas yn cyhoeddi ffotograffau, fideos, enwau a lleoliad cartrefi cystadleuwyr yn rhaglenni’r Sioe, ar wefan a thudalen Facebook y Sioe ac mewn mannau eraill (e.e. Papur Pawb) fel rhan o weithredu a hyrwyddo’r Sioe yn y dyfodol.
    Trwy gyflwyno cynigion, rydych chi’n cytuno eich bod wedi darllen a deall Rheolau Sioe 2021 a’r wybodaeth uchod am Warchod Data a Chyhoeddusrwydd.

Ffiniau

Mae’r Sioe yn agored i:

  • drigolion sy’n byw i’r gogledd o Afon Ystwyth hyd at ffin ogleddol Sir Ceredigion (mae’r map yn dangos y ffinau daearyddol). Gall Pwyllgor y Sioe wrthod derbyn cynigion y tu allan i’r ardal;
  • unigolion sydd wedi cystadlu mewn unrhyw ddosbarth yn Sioe Talybont rywdro yn y 3 blynedd ddiwethaf.

Mae Dosbarth 13 ac 14 yn agored i bawb.

Map showing the show area.