Adran Bwyd a Chrefftau

Adran Bwyd a Chrefftau 2026

Ydych chi’n gwneud neu’n creu pethau hardd – eitemau i’w gwisgo, i’w defnyddio, i’w bwyta, i’w hyfed neu eitemau i’w hedmygu? Os felly beth am ymuno â ni yn yr ardal grefftau yn Sioe Talybont eleni?

Bydd dewis gyda ni eleni, stondinau tu mewn neu du allan – dewch â’ch gazebo a’ch bwrdd eich hun os yw hynny’n fwy addas i chi.

Yn y cyfamser, dros yr wythnosau nesaf byddwn ni’n hyrwyddo stondinwyr trwy dudalen Facebook y sioe. Ewch i’n tudalennau a’u gwefannau, prynwch a chefnogwch fusnes lleol lle gallwch chi.

Ewch i’r babell grefftau i gael profiad siopa gwych.

Mae’n farchnad ddifyr lle mae pobl greadigol, dylunwyr, gwneuthurwyr a chynhyrchwyr lleol yn arddangos eu nwyddau i’r cyhoedd – y lle perffaith i dretio’ch hunan neu brynu anrheg i rywun arall.

Yma gallwch chi ddod o hyd i hyd at 30 o ddylunwyr, gwneuthurwyr a chynhyrchwyr annibynnol a thalentog sy’n gwerthu ystod o nwyddau gan gynnwys llyfrau, tecstilau, crosio ac eitemau wedi’u gwau, gwaith haearn, eitemau pren, dillad, colur naturiol, cerameg a gwaith celf mewn amrywiaeth o gyfryngau. Mae cynhyrchwyr cawsiau blasus, diodydd alcoholig, bara, siytni a chacennau i’w cael yma hefyd.
Bydd crefftwyr yn arddangos sgiliau traddodiadol fel nyddu, gwehyddu, gwneud rhaffau a chadw gwenyn hefyd yn y babell grefftau neu’n agos ati.

Cadwch lygad ar ein tudalen Facebook am wybodaeth am bwy fydd yn mynychu’r sioe eleni. Byddan nhw’n cael sylw yn y negeseuon “Cwrdd â’r Crefftwyr” yn y cyfnod yn arwain at ddiwrnod y sioe.

Os hoffech chi gofrestru diddordeb mewn cael stondin yn y sioe, cysylltwch â crefftau-crafts@sioetalybontshow.com i drafod lle a phrisiau byrddau.