Polisi Preifatrwydd

Pwy ydym ni

Cyfeiriad ein gwefan yw: http://sioetalybontshow.com.

Gweithredu’r Sioe

Bydd y Gymdeithas yn defnyddio’ch data i wneud y canlynol:

a) storio, prosesu a chadw, gan gynnwys yn electronig, yr holl ddata a gwybodaeth bersonol a ddarperir gan aelodau, cyfranwyr a chystadleuwyr, at ddibenion gweithredu’r Sioe, cadw a chynnal cofnodion priodol a chyfathrebu â nhw yn y dyfodol ynghylch unrhyw un o weithgareddau’r Gymdeithas;

b) cyhoeddi enwau a lleoliad cartrefi aelodau, cyfranwyr a chystadleuwyr, gan gynnwys ond nid yn gyfyngedig i enillwyr gwobrau, yn rhaglenni’r Sioe, ar wefan y Sioe ac mewn mannau eraill fel rhan o weithredu a hyrwyddo’r Sioe a sioeau yn y dyfodol;

c) tynnu lluniau o unrhyw gystadleuydd neu unigolyn arall ar Faes y Sioe a chadw a defnyddio’r delweddau sy’n deillio o hynny (gan gynnwys fersiynau wedi’u golygu neu wedi’u newid) ar gyfer unrhyw un o ddibenion masnachol neu anfasnachol y Gymdeithas ym mhob un ac unrhyw gyfrwng, gan gynnwys, heb gyfyngiad, eu defnyddio mewn deunydd hyrwyddo ac ar wefan y Gymdeithas, neu eu darparu i drydydd parti a ddewiswyd yn ofalus i’w defnyddio at eu dibenion eu hunain. Y Gymdeithas fydd yn berchen ar hawlfraint unrhyw ddelweddau o’r fath;

ch) cyhoeddi manylion a chanlyniadau unrhyw anghydfodau a / neu apeliadau.

Trwy arwyddo a chyflwyno ffurflen gystadlu, rydych chi’n cytuno eich bod wedi darllen a deall Rheolau ac Amodau’r Gymdeithas a’r wybodaeth am Warchod Data a Chyhoeddusrwydd a amlinellir uchod.

Cyfryngau

Os ydych chi’n uwchlwytho delweddau i’r wefan, dylech osgoi uwchlwytho delweddau sy’n cynnwys data lleoliad wedi’i fewnosod (EXIF GPS). Gall ymwelwyr â’r wefan lawrlwytho ac echdynnu unrhyw ddata lleoliad o ddelweddau sydd ar y wefan.

Cynnwys wedi’i ymgorffori o wefannau eraill

Gall erthyglau ar y wefan hon arddangos cynnwys wedi’i fewnosod (e.e. fideos, delweddau, erthyglau ayyb). Mae cynnwys wedi’i ymgorffori o wefannau eraill yn ymddwyn yn yr un ffordd yn union â phe bai’r ymwelydd wedi ymweld â’r wefan arall.

Efallai y bydd y gwefannau hyn yn casglu data amdanoch chi, yn defnyddio cwcis, yn ymgorffori technoleg olrhain trydydd parti ychwanegol, ac yn monitro’ch rhyngweithiad chi â’r cynnwys wedi’i ymgorffori, gan gynnwys olrhain sut y buoch chi’n rhyngweithio â’r cynnwys wedi’i ymgorffori os oes gennych gyfrif ac wedi mewngofnodi i’r wefan honno.

Pa mor hir fyddwn ni’n cadw’ch data

Ar gyfer defnyddwyr sy’n cofrestru ar ein gwefan (os oes o gwbl), rydym hefyd yn storio’r wybodaeth bersonol y maent yn ei darparu yn eu proffil defnyddiwr. Gall pob defnyddiwr weld, golygu, neu ddileu eu gwybodaeth bersonol ar unrhyw adeg (ond ni allant newid eu henw defnyddiwr). Gall gweinyddwyr gwefannau hefyd weld a golygu’r wybodaeth honno.

Pa hawliau sydd gennych chi dros eich data

Os oes gennych gyfrif ar y wefan hon gallwch ofyn am dderbyn ffeil wedi’i hallforio o’r data personol sydd gennym amdanoch chi, gan gynnwys unrhyw ddata rydych wedi’i ddarparu i ni. Gallwch hefyd wneud cais i ni ddileu unrhyw ddata personol sydd gennym amdanoch chi. Nid yw hyn yn cynnwys unrhyw ddata y mae’n ofynnol i ni ei gadw at ddibenion gweinyddol, cyfreithiol neu ddiogelwch.

Lle rydyn ni’n anfon eich data

Gall sylwadau ymwelwyr a data a gyflwynir trwy ffurflen gael eu gwirio gan system wedi’i hawtomeiddio i ganfod sbam.