Mae’n bleser mawr gennym groesawu Helen Lloyd yn ôl, a fydd yn gwerthu Caws Cenarth. Mae llaethdy Caws Cenarth ar Fferm Glyneithinog yn nyffryn hyfryd a gwyrddlas Afon Cych a dyma lle gwneir y caws Per Llas enwog a chawsiau “Golden Cenarth”.
Rydym yn croesawu Cothi Valley yn ôl hefyd .https://www.facebook.com/CothiValley. Mae gan Cothi fuches fach o eifr godro a moch ac maen nhw’n cynhyrchu detholiad blasus o gynnyrch sawrus a melys bob wythnos, gan gynnwys wyau Albanaidd mewn amrywiaeth anhygoel o flasau, pasteiod, tartiau cwstard, sgons a chacennau Eccles.
Bydd Silvia o Vaz Bakery yn dod â blas bach o Bortiwgal i Sioe Talybont eleni trwy werthu detholiad blasus o fwydydd traddodiadol Portiwgeaidd – bara ffres, cacennau cartref a ffefrynnau sawrus. Mae popeth yn cael ei greu gyda ryseitiau go iawn o Bortiwgal a digonedd o gariad. Dyma’r cyfle perffaith i roi cynnig ar rai danteithion Portiwgeaidd!
