Cwrdd â’r Crefftwyr 6

Mae’n bleser cael aelodau Sefydliad y Merched (WI) Genau’r Glyn yn y sioe eleni. Maen nhw wedi bod yn croesawu aelodau i’w cyfarfodydd yn Llandre ers bron i 80 mlynedd. Maen nhw’n grŵp gweithgar gyda rhaglen gynhwysfawr o weithgareddau yn amrywio o ymweliadau â’r Orsaf Bad Achub i sgyrsiau ar offer coginio drwy’r oesoedd a sesiynau crefft ynghyd â llawer o weithgareddau ledled y sir. Maen nhw wedi croesawu aelodau o Dalybont a Rhydypennau dros y blynyddoedd diwethaf ac mae croeso i unrhyw aelodau newydd. Ar y diwrnod, bydd ganddyn nhw amryw o eitemau crefft i’w gwerthu gan gynnwys cardiau, mygiau, matiau diod, planhigion, gwaith celf, cacennau a llyfrau.

Grŵp o drigolion lleol i Dalybont yw Natur Y Fro, sy’n ymwneud â phrosiectau natur lleol ac sy’n dod at ei gilydd yn arbennig ar gyfer y sioe i rannu eu gwybodaeth a’u profiad amgylcheddol trwy raglen o rannu gwybodaeth, trafodaeth a sgwrs ochr yn ochr â chrefftau a gemau natur i’r rhai iau. Galwch heibio i gael sgwrs am brosiectau natur lleol neu rhowch gynnig ar grefftau gwlân!

Dyma raglen y dydd:

10-12 Crefftau natur

Tatws ar ffon: dysgwch nyddu cnu yn edafedd gan ddefnyddio deunyddiau cartref.

Crefftau peg a chrefftau gwlân eraill. Beth am ddod â’ch prosiectau eich hun i’w dangos i ni hefyd?

12-2pm Grŵp plannu coed Talybont a ffrindiau

Gwrychoedd, argaeau sy’n gollwng, ffermio sy’n gyfeillgar i natur, rheoli llifogydd yn naturiol, cymuned

2-4 Hwyl i suo’r haf? Dysgwch sut i helpu cachgi bwms ym mhob tymor.