Rydym yn falch iawn o gyhoeddi y byddwn ni’n cynnal Sioe Talybont yn 2021!
Yn dilyn llwyddiant ein Sioe Ar-lein y llynedd rydyn ni’n awyddus i gynnal yr un math o ddigwyddiad eleni eto, er mwyn galluogi
pawb i fwynhau a chymryd rhan yn ddiogel. Bydd adrannau’r babell yn cael eu cynnal ar-lein yn ogystal ag adrannau’r
anifeiliaid.
Dros y misoedd diwethaf bu Pwyllgor y Sioe yn trafod y posibilrwydd o gynnal rhai cystadlaethau ar y cae. Ar ôl pwyso a mesur nifer o opsiynau ac ystyriaethau, rydym wedi penderfynu na fydd modd i ni wneud hynny eleni yn anffodus.
Cadwch lygad ar ein cyfrif facebook yn yr wythnosau nesaf am ragor o fanylion!
