Nid dim ond anifeiliaid a chrefftau sydd i’w gweld yn y sioe, ond hen beiriannau fferm hefyd! Dymuna’r Pwyllgor ddiolch i’r aelodau am eu cymorth a’u brwdfrydedd i arddangos eu peiriannau a’u crefftau. Mae hyn yn rhoi pleser ac yn dwyn hen atgofion i lawer. Hoffem ddiolch i Mr Evan Jenkins, Pengwern a Mr Aeron Williams, Maes Meillion am eu gwaith caled a’u hymroddiad dros y blynyddoedd fel prif stiwardiaid Arddangosfa’r Hen Beiriannau. Hoffem groesawu Mr Peter Watkin, Blaenwaun, Borth i’r pwyllgor ac i’w rôl newydd fel Prif Stiward yr Hen Beiriannau mewn partneriaeth â Chlwb Hen Beiriannau Gogledd Ceredigion.
