**Mae’r cystadlaethau wedi cau erbyn hyn!**
Diolch i bawb sydd wedi anfon eu ffotos a’u fideos atom eleni! Byddwn ni’n cyhoeddi’r enillwyr ar ein tudalen Facebook a’r wefan ar 27 Awst 2022!
Eleni, bydd cystadlaethau anifeiliaid anwes yn cael eu cynnal ar-lein yn hytrach nag ar y cae. Mae gyda ni ddau ddosbarth, sy’n agored i blant dan 14 oed:
1. Anifail anwes gorau yn cael ei arddangos gan blentyn (ac eithrio cŵn) – fideo dim mwy na munud o hyd
2. Y ci mwyaf ciwt – ffotograff
Rheolau a sut i gystadlu
Dim ond dau gynnig a ganiateir ym mhob dosbarth. Nid oes tâl cystadlu. Am ragor o fanylion ynglŷn â sut i anfon eich ffotos a’ch fideos i mewn, ewch i’r ffurflen ar-lein ar ein gwefan. Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 24 Awst 2022.
Gwobrau
1af – £3, 2il – £2, 3ydd – £1
Noddir y ddau ddosbarth gan Mrs Barbara Jenkins, Hafod Ifan, Tre’r-ddôl.
Beirniadu a chyhoeddi’r enillwyr
Beirniaid y ddau ddosbarth fydd Llywyddion y Sioe, sef Marion a Dilwyn Evans, Tynant, Talybont. Bydd y fideos a’r ffotograffau buddugol yn cael eu cyhoeddi ar ein tudalen Facebook a’n gwefan ar ddiwrnod y Sioe, 27 Awst 2022.
Cysylltu
Os bydd unrhyw gwestiwn gyda chi, cysylltwch â ni:
Siwan Evans, Pantcoch, Talybont, Ceredigion SY24 5DN
01970 832943 / 07527 407781 / ysgrifenyddes@sioetalybontshow.com
