Mae SP Energy Networks eisiau eich atgoffa o beryglon a risgiau defnyddio cerbydau a pheiriannau’n agos at offer a chyfarpar trydanol.
Mae cyffwrdd llinellau uwchben byw yn gallu bod yn beryglus a dylid rhoi rheolaethau addas ar waith i atal anafiadau, niwed neu ddifrod.
Os byddwch chi’n cyffwrdd â llinell uwchben ar ddamwain, cynghorir i chi aros yn y cerbyd, ffonio 105 neu’r gwasanaethau brys a disgwyl am ragor o gyfarwyddiadau a gwybodaeth ei bod hi’n ddiogel i chi adael y cerbyd.


Toriad Trydan? Ffoniwch 105
Ffoniwch ni unrhyw bryd os cewch chi doriad trydan ar ein rhif ffôn argyfwng toriad trydan 105 dim ots gan bwy rydych chi’n cael eich biliau..


Paratoi i Ddatgarboneiddio
Mae rhagor o wybodaeth ar gael am sut rydyn ni’n helpu ein cwsmeriaid i baratoi i ddatgarboneiddio –
Cerbydau Trydan, Pympiau Gwres, Cynhyrchu Gwasgaredig.
Gallwch chi hefyd gysylltu â ni’n uniongyrchol dros yr e-bost – gettingconnectedupdate@spenergynetworks.co.uk

Gwasanaethau Blaenoriaeth
Os bydd toriad trydan, mae ein timau’n gweithio drwy’r dydd a’r nos i adfer eich trydan cyn gynted â phosibl. Rydyn ni’n gwerthfawrogi y gallai hyn achosi gofid arbennig i rai cwsmeriaid felly rydyn ni’n cynnig cefnogaeth ychwanegol i gwsmeriaid sy’n teimlo bod angen ein help arnynt.
Angen rhywfaint o gymorth ychwanegol? Os ydych chi, gallwch gofrestru â Gwasanaethau Blaenoriaeth SP Energy Networks.
