Gydag ychydig dros wythnos i fynd tan ddiwrnod y Sioe, mae’n bryd cyflwyno rhai o’r gwneuthurwyr fydd yn ymuno â ni. Mae’n hyfryd croesawu rhai newydd i ymuno â ni ac mae’r un mor hyfryd croesawu rhai mwy cyfarwydd yn ôl. Felly, cydiwch yn eich bagiau siopa, dewch i gefnogi crefftwyr, gwneuthurwyr a gwerthwyr lleol ac ewch ati i hel anrhegion i chi’ch hun neu eraill. Heb os, bydd digon i’ch temtio!
Mae Maggie Price yn gwneud pob math o bethau hyfryd yn ei Stiwdio yng Ngorllewin Cymru a dywed “Dwi’n dylunio ac yn gwneud bron iawn yr hyn dwi eisiau gan ddefnyddio tecstilau, ffibrau neu fetelau. Mae Woolly Daydreams yn arddangos fy ngwaith i gyd”.
Mae Emma Jones neu EJ Makes yn personoli amrywiaeth o eitemau a dillad gan gynnwys poteli diod, bagiau picnic, crysau T a chrysau chwys. Mae Emma hefyd wedi dechrau defnyddio resin i wneud cylchau allweddi a llyfrnodau.
