Dywed Bahar Erdem, y pobydd sy’n gyfrifol am Sugarcane Artisan Crumbs, mai cyfrinach ei fwydydd blasus yw’r cynhwysion gorau a mwyaf ffres sy’n cael eu defnyddio. Dydyn nhw ddim yn cynnwys ychwanegion na chadwolion artiffisial o gwbl. Mae hi’n mynychu Marchnad Ffermwyr Aberystwyth yn rheolaidd i werthu cacennau caws, crymbl, brownis, blondies a chwcis. Gallwch chi hefyd archebu cacennau dathlu ganddi. Edrychwch ar dudalen facebook Bahar i weld beth allai fod ar gael!
Bydd Cacennau Mirain Haf ar gae’r sioe ddydd Sadwrn gyda detholiad blasus o gacennau a threiffl! Bydd hi wrth ymyl gazebo Sioe’r Cardis 2024, felly galwch draw, prynwch ddanteithion melys a nwyddau Sioe’r Cardis tra byddwch chi yno.
Mae’r ladis yn dod … sy’n golygu y bydd Ruth Jên gyda ni hefyd! Er ei bod hi’n fwyaf adnabyddus fel gwneuthurwr printiau, yn ddiweddar mae Ruth wedi ennill Gwobr Josef Herman – Dewis y Bobl yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym Moduan am ei gwaith celf seramig. Caiff yr enillydd ei ddewis gan ymwelwyr i’r Lle Celf mewn pleidlais gaeedig ac roedd y pleidleisiau dros waith Ruth wedi tywallt i mewn o’r diwrnod cyntaf. Llongyfarchiadau Ruth!
Ffrwythau sy’n cael eu tyfu a’u casglu â llaw yng Nghymru yw’r cynhwysion sydd yng nghynnyrch bendigedig Toloja Orchards. Seidr cartref fflat a phefriog, gwin afal a gwin gellyg, finegr seidr, siytni, mwstard a phicls yw rhai o’r eitemau y maen nhw’n eu gwerthu.
Bydd Greencottagebooks o Dalybont yn gwerthu detholiad o hen lyfrau a llyfrau hynafiaethol sydd allan o brint a rhai teitlau mwy diweddar ar ystod o bynciau a genres. Galwch heibio i bori!
