Cwrdd â’r Crefftwyr 1

Mae’n bryd cwrdd â’r crefftwyr a’r cynhyrchwyr bwyd a fydd yn ymuno â ni eleni yn yr Ardal Bwyd a Chrefft – rhai y byddwn ni’n eu croesawu’n ôl ac eraill sy’n cael eu croesawu am y tro cyntaf. Peidiwch ag anghofio galw heibio a chefnogi’n cynhyrchwyr a’n gwneuthurwyr lleol trwy brynu’n lleol, boed yn wledd i chi’ch hun neu’n anrheg i rywun arall. (Er y bydd rhai o bosib yn gallu derbyn taliadau cerdyn, ni fydd pob un yn medru gwneud hynny, felly peidiwch ag anghofio dod ag arian parod yn ogystal â’ch cerdyn i osgoi cael eich siomi!)

Mae’n bleser mawr gennym estyn croeso unwaith eto i Caws Cenarth Cheese sy’n cynhyrchu amrywiaeth o Gawsiau Artisan, i gyd wedi’u gwneud yn llaethdy Caws Cenarth yn Fferm Glyneithinog yn nyffryn hyfryd a gwyrddlas Afon Cych. Maen nhw’n defnyddio llaeth organig ac anorganig a gynhyrchir o fewn 30 milltir i’r llaethdy i wneud amrywiaeth o gawsiau y mae eu blas yn gysylltiedig â’r glaw, yr heulwen a’r hinsawdd arfordirol sy’n perthyn i’r rhan honno o Dde-orllewin Cymru. Caws Cenarth yw cynhyrchwyr sefydledig hynaf Welsh Farmhouse Caerffili. Nhw hefyd yw cynhyrchwyr Perl Wen sy’n debyg i Brie, Perl Las – y caws glas hufenog, a ‘Golden Cenarth’, sef caws cryf ei flas â chroen wedi’ olchi, yn ogystal ag amrywiaeth o gawsiau blasus eraill gan gynnwys fy ffefryn – caws organig gyda winwns balsamic!

Mae hefyd yn wych cael Cothi Valley yn ôl ar gae’r sioe. Mae eu geifr godro yn darparu’r llaeth a’r caws a ddefnyddir yn eu hamrywiaeth foethus o basteiod sawrus, croissants a thartenni melys. Rwy’n gobeithio y byddan nhw’n dod â’u wyau ‘selsig’ llysieuol a’u pasteiod ceirios bendigedig. Mae gofyn i chi fynd yno’n gynnar – mae eu cynnyrch yn gwerthu’n gyflym a dydych chi wir ddim eisiau methu eu blasu!