Cwrdd â’r Crefftwyr 5

Ty Cariad Bespoke Clothing yw’r bobl ddawnus sy’n creu dillad y gellir eu gwisgo ddwyffordd! Byddan nhw’n ymuno â ni eto i werthu dillad plant a wnaed â llaw o ddefnyddiau trawiadol Mae bob amser yn bleser eu gweld! https://www.facebook.com/groups/641318539374931/?ref=group_header

Bydd Tricia O’Kane, y ffotograffydd tirluniau celf gain o Geredigion hefyd yn ymuno â ni ar ddiwrnod y sioe. Dywed Tricia “Dwi’n aml wedi fy syfrdanu gan harddwch natur, a dwi’n ceisio cynnwys rhan o hynny yn fy ngwaith.” Gallwch weld ei gwaith trwy fynd i: http://www.imagesofnature.co.uk/