Nwyddau Noni – Mae Non Jones yn creu dyluniadau gwreiddiol â llaw i’r cartref neu achlysuron arbennig. Ewch draw i’w thudalen Facebook i weld ei gwaith neu, yn well fyth, ewch draw i’w gweld hi ar ei stondin yn y sioe i brynu neu i gomisiynu darn.
Bydd Green Cottage yn gwerthu planhigion dahlias a blodau dahlia rhydd yn bennaf (ond efallai y bydd planhigion eraill ar gael ar y diwrnod!)
Mae Frankie and Bo Candles yn gwneud canhwyllau cwyr soi fegan moethus â llaw, mewn amrywiaeth o beraroglau hyfryd.
