Cwrdd â’r Crefftwyr 4

Mae Paul Crampton, sef Simply Roses o Landdewi Brefi, yn creu dyluniadau pren unigol, posau 3D, placiau enw, ffrwythau pren a llawer mwy. Mae’n fwy na pharod i siarad am ei greadigaethau arbennig felly galwch heibio i ddweud helo a phrynu ganddo.

Bydd Danni Jones yn y sioe gyda’i chynnyrch Purity Skincare. Natur a pharch at yr amgylchedd yw ysbrydoliaeth a chonglfaen busnes Danni a’i chynnyrch. Mae hi (gyda chymorth ei dau fab ifanc) ond yn defnyddio cynhwysion sy’n deillio’n naturiol a phersawr 100% naturiol i gynhyrchu amrywiaeth o sebonau melys gan gynnwys Lemonwellt a Hadau Pabi, Lafant a Grawnffrwyth a Rhuddos. (Mae pob un wedi’i ardystio’n llawn gan ymgynghorydd diogelwch cosmetig a dyw’r cynnyrch ddim yn cynnwys olew palmwydd.)