Cwrdd â’r Crefftwyr 3

Darlunydd a gwneuthurwr printiau yw Hannah Doyle sy’n arbenigo mewn printiau leino. Dywed Hannah mai ei diddordeb hi mewn natur a bywyd gwyllt sy’n ei hysbrydoli wrth greu printiau leino ynghyd â materion amgylcheddol megis newid hinsawdd a cholli bioamrywiaeth. Gallwch brynu printiau leino, cardiau a nwyddau cartref Hannah drwy ei siop ar-lein neu mewn orielau lleol. Mae hi hefyd yn gwneud gwaith comisiwn ac yn darlunio llyfrau.  Rydyn ni’n hapus iawn i dy gael di’n ôl Hannah!

Mae’r un peth yn wir am Tricia O’Kane. Bydd Tricia, y ffotograffydd tirluniau celf gain o Geredigion hefyd yn ymuno â ni ar ddiwrnod y sioe eto eleni. Dywed Tricia “Dwi’n aml wedi fy syfrdanu gan harddwch natur, a dwi’n ceisio cynnwys rhan o hynny yn fy ngwaith.” Gallwch weld ei gwaith trwy fynd i: http://www.imagesofnature.co.uk/