Mae gan Sally-Ann Hewitt amrywiaeth eang o grefftau hardd wedi’u gwneud â llaw i’ch denu chi – baneri ffabrig, ffedogau print hyfryd i blant, bagiau ‘tote’ ffabrig a bagiau anrhegion, addurniadau ‘shabby chic’, cylchoedd allweddi blodau ffabrig a hyd yn oed bandanas ar gyfer eich ffrind pedair coes. Gydag amrywiaeth mor dlws cewch chi drafferth dewis beth i’w brynu!!
Bydd Paul Crampton, sef Simply roses yn gwerthu ei bosau hardd a chywrain, llwyau caru, dreigiau, defaid, enwau ac arwyddion. Mae’n wych eich gweld chi’n ôl Paul.
