Cwrdd â’r Crefftwyr 2

Bydd Cymdeithas Gwenynwyr Aberystwyth ar y cae yn hyrwyddo cadw gwenyn ac yn arddangos cwch gwenyn i’w arsylwi. Bydd cyfle hefyd i brynu mêl lleol!

Rydyn ni bob amser yn falch o groesawu i Urdd y Nyddwyr, y Gwehyddion a’r Lliwyddion a fydd yn arddangos eu sgiliau ac yn gwerthu rhai o eitemau. Dewch draw i’w stondin i ddysgu rhywbeth am y grefft draddodiadol yma.

Mae Sue Marcus, sy’n byw yn Nhalybont, yn ymroi i godi arian ar gyfer Sefydliadau Cymorth a Hawliau Dynol a bydd hi’n gwerthu siytni a chardiau ar ddiwrnod y sioe i godi arian at rai achosion da iawn.