Categori Uncategorised

Stondinau crefft

Bydd amrywiaeth o grefftwyr yn arddangos eu sgiliau ac yn gwerthu eu nwyddau yn yr ardal grefftau yn Sioe Talybont eleni. Hoffech chi ymuno â nhw? Cysylltwch â Rachel Mills gydag unrhyw ymholiadau ynglŷn â chael stondin neu fwrdd!crefftau-crafts@sioetalybontshow.com

Diolch, Owain!

Hoffai Pwyllgor y Sioe ddiolch yn fawr i Owain Hammonds am ei gymorth parod a’i holl waith gwirfoddol wrth baratoi rhaglen y sioe eleni eto. Mae copi digidol ar gael yma.

Cystadleuaeth y Llywydd

Beirniad/Judge: JANET JONES, Llwynglas, Talybont DOSBARTH ARBENNIG 45 Bydd enillydd Dosbarth Arbennig 16 (arddangosyn gorau y Ceffylau Gwedd), Dosbarth Arbennig 21 (arddangosyn gorau y Da Bîff), ac enillydd Dosbarth Arbennig 37 (arddangosyn gorau y Defaid Dorset (Moel a Chorniog) yn…

Adloniant Plant

Bydd llawer o bethau ar gael ar y cae i ddiddanu’r plant, gan gynnwys lle chwarae, tatŵs glityr, paentio wynebau a llawer mwy! Diolch i Cylch Meithrin Talybont am eu cefnogaeth barhaus i’r sioe.

Hen beiriannau fferm

Nid dim ond anifeiliaid a chrefftau sydd i’w gweld yn y sioe, ond hen beiriannau fferm hefyd! Dymuna’r Pwyllgor ddiolch i’r aelodau am eu cymorth a’u brwdfrydedd i arddangos eu peiriannau a’u crefftau. Mae hyn yn rhoi pleser ac yn…