Beth sy’ mlaen dydd Sadwrn?

Gyda dim ond diwrnod neu ddau i fynd tan y sioe, rydyn ni wrthi’n paratoi’r cae a’r babell ac yn edrych ymlaen yn fawr at groesawu pawb i Dalybont dydd Sadwrn! Oes cwestiynau gyda chi? Cysylltwch â ni … neu efallai y gallwn ni eu hateb nhw’n syth, fan hyn!
Sut i gyrraedd y cae

Bydd y sioe yn cael ei chynnal ar Gaeau’r Llew Du, Talybont, SY24 5EN. Mae parcio am ddim ac mae lle parcio ar gyfer yr anabl wedi’i neilltuo ar y cae. Ffoniwch 01970 832027 os oes gyda chi ymholiadau.

Amser agor

Bydd y cae ar agor i’r cyhoedd am 08:30.

Pris mynediad

Oedolion £8.00
Pensiynwyr £5.00
Plant dan 16 oed: £3.00
Byddwn ni’n gallu derbyn taliadau cerdyn/taliadau digyffwrdd wrth y gât.

Cŵn

Mae croeso i chi ddod â chŵn i’r cae ond cadwch nhw ar dennyn os gwelwch chi’n dda. Yn anffodus, chewch chi ddim mynd â chŵn i mewn i’r babell fawr.

Atyniadau

Mae digon i’w fwynhau heblaw’r cystadlaethau ar y cae ac yn y babell fawr! Mae gyda ni:

  • stondinau crefftau a bwyd
  • arddangosfa o hen beiriannau
  • sioe gŵn
  • gweithgareddau amrywiol i blant
  • arddangosfa gan Rhydian Evans y Ffarier yn y prynhawn
  • rasys cŵn
Bwyd a diod

Bydd cwmni arlwyo Merann gyda ni ar y cae yn gwerthu brechdanau, byrgyrs, cacennau a diodydd. Mae arolygon y tywydd yn ffafriol felly gofalwch eich bod chi’n cael hufen iâ o fan K & C Yarwood hefyd!

Cyfleusterau

Bydd toiledau Kangaloos ar y cae (gan gynnwys toiled i’r anabl) a nifer o orsafoedd i ddiheintio dwylo.

Ymholiadau cyffredinol

Os oes cwestiwn neu ymholiad gyda chi, yna e-bostiwch ysgrifenyddes@sioetalybontshow.com neu ffoniwch Mair Nutting (Ysgrifennydd Cyffredinol) – 01970 832027 / Siwan Evans (Ysgrifennydd y Babell) – 01970 832943 / 07527 407781

Dewch yn llu i fwynhau!