Adrannau Newydd

Ydych chi wedi sylwi bod gennym amryw o adrannau newydd eleni?

Ydych chi wedi sylwi bod gennym amryw o adrannau newydd eleni?

Rydym yn croesawu nifer o stondinau i’r cae sioe bob blwyddyn- o fentrau lleol i elusennau a busnesau. Cysylltwch â Huw Davies (07398 729820) os hoffech chi ymuno â nhw!

Bydd amrywiaeth o grefftwyr yn arddangos eu sgiliau ac yn gwerthu eu nwyddau yn yr ardal grefftau yn Sioe Talybont eleni. Hoffech chi ymuno â nhw? Cysylltwch â Rachel Mills gydag unrhyw ymholiadau ynglŷn â chael stondin neu fwrdd!crefftau-crafts@sioetalybontshow.com

Diolch yn fawr i’r Lolfa am wasanaeth gwych eto eleni!

Byddwn yn croesawu Elfed Davies, Llwch yr Haf, Castell Newydd Emlyn i feirniadu adran y Ceffylau Gwedd eleni- yn wahanol i’r hyn sydd wedi’i nodi yn y rhaglen. Diolch am eich dealltwriaeth.

Hoffai Pwyllgor y Sioe ddiolch yn fawr i Owain Hammonds am ei gymorth parod a’i holl waith gwirfoddol wrth baratoi rhaglen y sioe eleni eto. Mae copi digidol ar gael yma.

Cofiwch fynd i gefnogi criw Cneifio Cyflym Tal-y-bont ar ôl y sioe! Bydd hi’n noson a hanner!

Dyddiad cau adran y babell heddiw! Ffurflen gystadlu ar gael yma.

Mae dddiad cau’r adran da byw heddiw! Mae’r rhaglen a’r ffurflen gystadlu ar gael yma.

Beirniad/Judge: JANET JONES, Llwynglas, Talybont DOSBARTH ARBENNIG 45 Bydd enillydd Dosbarth Arbennig 16 (arddangosyn gorau y Ceffylau Gwedd), Dosbarth Arbennig 21 (arddangosyn gorau y Da Bîff), ac enillydd Dosbarth Arbennig 37 (arddangosyn gorau y Defaid Dorset (Moel a Chorniog) yn…